Galeón Andalucía

10/05/2024

12/05/2024

Britannia Quay

Cei Britannia

A unique replica of the legendary Spanish tall ship that sailed the world for three centuries will be open to visitors at Britannia Quay in Cardiff Bay. The public is invited to climb aboard the Galeón Andalucía and experience this fascinating floating museum on Friday 10 – Sunday 12 May from 10am until 8pm.

Majestic vessels such as this brought about global maritime trade during the 16th to 18th centuries by sailing the Atlantic Ocean, Caribbean Sea, American coasts and Pacific route, linking Spain, America and Asia.

The visit includes a self-guided walking tour with the opportunity to explore six decks, interactive exhibits and historical documents, watch videos, take photos and meet crew members.

Tickets cost £12 for adults, and £6 for children aged 5-10 (under 5s are free). Family tickets for two adults and up to three children are available for £30. Booking online in advance is recommended to avoid disappointment: https://bit.ly/3WgiP5E. Tickets can also be purchased at the ship. Schools and organisations should schedule their visit by contacting ecampos@velacuadra.es.

 

Galeón Andalucía – facts and figures                                                        

Decks area: 3,400 ft²

Length: 164 ft

Beam: 33 ft

Weight: 500 tons

Masts: 3

Sails: 7, measuring nearly 11,000 ft²

Average speed: 7 knots

Over the past five years, the vessel has visited 123 cities and received more than a million visitors

Bydd atgynhyrchiad unigryw o’r llong uchel enwog o Sbaen a hwyliodd y byd am dair canrif ar agor i ymwelwyr yng Nghei Britannia ym Mae Caerdydd. Gwahoddir y cyhoedd i ddringo ar fwrdd y Galeón Andalucía a phrofi’r amgueddfa hynod ddiddorol hon ddydd Gwener 10 – dydd Sul 12 Mai rhwng 10am ac 8pm.

Creodd llongau mawreddog fel hyn fasnach forwrol fyd-eang rhwng yr 16eg a’r 18fed ganrif trwy hwylio Cefnfor yr Iwerydd, Môr y Caribî, arfordiroedd America a llwybr y Môr Tawel, gan gysylltu Sbaen, America ac Asia.

Mae’r ymweliad yn cynnwys taith gerdded hunan-dywys gyda’r cyfle i archwilio chwe dec, arddangosfeydd rhyngweithiol a dogfennau hanesyddol, gwylio fideos, tynnu lluniau a siarad ag aelodau’r criw.

Mae tocynnau’n costio £12 i oedolion, a £6 i blant 5-10 oed (mae plant dan 5 oed am ddim). Mae tocynnau teulu ar gyfer dau oedolyn a hyd at dri phlentyn ar gael am £30. Argymhellwn archebu ar-lein ymlaen llaw er mwyn osgoi siom: https://bit.ly/3WgiP5E. Gellir prynu tocynnau wrth y llong hefyd. Dylai ysgolion a sefydliadau drefnu eu hymweliad drwy gysylltu ag ecampos@velacuadra.es.

 

Galeón Andalucía – ffeithiau a ffigurau

Ardal y deciau: 3,400 troedfedd²

Hyd: 164 troedfedd

Trawst: 33 troedfedd

Pwysau: 500 tunnell

Mastiau: 3

Hwyliau: 7, yn mesur bron 11,000 troedfedd²

Cyflymder cyfartalog: 7 milltir fôr

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r llong wedi ymweld â 123 o ddinasoedd ac wedi derbyn dros filiwn o ymwelwyr.

 

Share: