Monumental Welsh Women

22/02/2025

07/05/2025

Senedd Oriel

Oriel y Senedd

An exhibition by Monumental Welsh Women and artist Meinir Mathias, in partnership with the Senedd

Sponsored by the Llywydd, Rt. Hon. Elin Jones MS

Monumental Welsh Women is a not-for-profit organisation dedicated to recognising the contribution of women to the history and life of Wales. In 2016, the group started campaigning to get five statues of notable Welsh women erected in different locations around Wales.

To mark International Women’s Day 2025, Monumental Welsh Women is proud to present this exhibition which celebrates the unveiling of the first four statues: Betty Campbell in Cardiff, Elaine Morgan in Mountain Ash, Cranogwen in Llangrannog, and Lady Rhondda in Newport. The final statue, commemorating Elizabeth Andrews, will be erected in the Rhondda this year.

For this exhibition, Ceredigion-based artist Meinir Mathias has painted original portraits of the five women honoured by the Monumental Welsh Women project. Meinir said:

“I believe that the work by the Monumental Welsh Women team in addressing the need for monuments of women in Wales is an incredibly important step forward for our society as a whole. Recognising and honouring female historical figures in art is essential as it helps to correct the gender imbalance in our historical narratives.”

The Llywydd said:

“The theme for this year’s International Women’s Day is “Accelerate Action” towards gender equality, so it is apt that we’re celebrating five Monumental Welsh Women who were pioneers in their field.”

“I am particularly pleased that the Senedd is hosting this exhibition by the talented female artist Meinir Mathias whose exciting work will give us a new perspective on five important historical figures.”

“I hope that the exhibition will attract and inspire new audiences, and that the campaign to celebrate Wales’s many remarkable women will continue to gather momentum.”

Explore the exhibition to see Meinir’s portraits, maquettes and images of the statues, and find out more about the histories of these pioneering women.

Monumental Welsh Women has delivered this exhibition in partnership with Acuity Law.

Arddangosfa gan Monumental Welsh Women a’r artist Meinir Mathias, mewn partneriaeth â’r Senedd

Noddir gan y Llywydd, y Wir Anrhydeddus Elin Jones AS

Sefydliad dielw yw Monumental Welsh Women sydd â’r nod o sicrhau bod cyfraniad menywod i hanes a bywyd Cymru yn cael ei gydnabod. Yn 2016, dechreuodd y grŵp ymgyrchu i godi pum cerflun o fenywod nodedig o Gymru mewn gwahanol leoliadau o amgylch Cymru.

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025, mae Monumental Welsh Women yn falch o gyflwyno’r arddangosfa hon sy’n dathlu dadorchuddio’r pedwar cerflun cyntaf: Betty Campbell yng Nghaerdydd, Elaine Morgan yn Aberpennar, Cranogwen yn Llangrannog, a’r Arglwyddes Rhondda yng Nghasnewydd. Bydd y cerflun olaf, i gofio am Elizabeth Andrews, yn cael ei godi yn y Rhondda eleni.

Ar gyfer yr arddangosfa hon, mae’r artist Meinir Mathias o Geredigion wedi peintio portreadau gwreiddiol o’r pum menyw a anrhydeddwyd gan brosiect Monumental Welsh Women. Dywedodd Meinir:

“Rwy’n credu bod y gwaith yma gan dîm Monumental Welsh Women i fynd i’r afael â’r angen am gerfluniau o fenywod Cymru yn gam hynod bwysig ymlaen i’n cymdeithas gyfan. Mae cydnabod ac anrhydeddu menywod hanesyddol drwy gelf yn hanfodol gan fod hynny’n helpu i gywiro’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein naratifau hanesyddol.”

Dywedodd y Llywydd:

“Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw “Cyflymu Gweithredu” tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac felly mae’n addas ein bod yn dathlu pum Menyw Bwysig o Gymru a oedd yn arloeswyr yn eu maes.”

“Rwy’n arbennig o falch bod y Senedd yn cynnal yr arddangosfa hon gan yr artist benywaidd talentog Meinir Mathias, y bydd ei gwaith cyffrous yn rhoi safbwynt newydd inni ar bum ffigur hanesyddol pwysig.”

“Rwy’n gobeithio y bydd yr arddangosfa yn denu ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd, ac y bydd yr ymgyrch i ddathlu nifer o fenywod nodedig Cymru yn parhau i fagu momentwm.”

Yn yr arddangosfa, bydd cyfle i weld portreadau Meinir, maquettes a delweddau o’r cerfluniau, a darganfod mwy am hanes y menywod arloesol hyn.

Cyflwynwyd yr arddangosfa gan Monumental Welsh Women mewn partneriaeth ag Acuity Law.

Share: