Summer at the Senedd

Haf yn y Senedd

19/07/2025

31/08/2025

The Senedd and the Pierhead

Y Senedd a'r Pierhead

Join us at the Senedd this summer for a lineup of exciting activities!

Open 7 days a week from 19 July to 31 August. Free entry.

Exhibitions

  • Wanderlust: Discover the rich, vibrant culture of Gypsy and Traveller communities through powerful photography and poetry. Created by pupils from West Monmouth School in collaboration with local artists, this exhibition challenges stereotypes and celebrates identity.
  • Rooted in our Dhaqan: This summer, the Senedd is proud to host Rooted in Our Dhaqan, a new exhibition created by Hayaat Women Trust and Al Naaem magazine. The project is a powerful tribute to the strength, resilience, and beauty of Somali heritage.

 

Activities

  • “We stand in the richness of who we are” – Rooted In Our Dhaqan Sharing Activity: The Rooted in Our Dhaqan film celebrates Somali heritage in Wales. If you could make a film celebrating your culture or community, what would you want to share with people of the future? Explore the exhibition and share your reflections in the Senedd.
  • Creative workshop with Al Naaem Magazine: As part of the Rooted In Our Dhaqan exhibition, Al Naaem will hold a poetry and creative writing workshop designed to empower young people and develop their creativity. Participants will explore their heritage and identities through guided writing and storytelling, developing their unique voices and building confidence.
  • Postcards from the Future: What do you think Wales will be like in 10, 20 or even 50 years time? How did we get there? Let the Senedd Equality and Social Justice Committee know by making your very own postcard from the future.
  • Craft: Discover your creative spark—enjoy hands-on crafting during your visit to the Senedd, with a range of different materials provided.
  • Play Area: Our family-friendly area has lots of toys to play with and a large map of Wales to explore. While the children are playing you can enjoy a coffee in the Senedd café, which is only a few feet away.
  • Activity Booklets – Senedd Explorers and Fflam’s Pierhead Adventure: Explore the Senedd and the Pierhead with our activity journals for 5-12 year olds.

 

Tours and Talks

  • Join a guided tour or talk and learn more about the work of the Welsh Parliament, the building’s landmark architecture and the history of Cardiff Bay.

 

Plant ac oedolion o amgylch byrddau wedi'u gorchuddio â chyflenwadau celf lliwgar, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft mewn ystafell olau ac eang. / Children and adults gathered around tables covered in colourful art supplies, taking part in craft activities in a bright, spacious room.  Tywysydd yn tywys pobl ar daith o amgylch y Senedd / A tour guide showing people around in the Senedd  Rhiant a phlant yn chwarae gyda blociau adeiladu ym man chwarae'r Senedd / A parent and children play with building blocks in the Senedd play area

Ymunwch â ni yn y Senedd yr haf hwn am gyfres o weithgareddau cyffrous!

Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 19 Gorffennaf tan 31 Awst. Mynediad am ddim.

Arddangosfeydd

  • Wanderlust: Darganfyddwch ddiwylliant cyfoethog, bywiog cymunedau Sipsiwn a Theithwyr trwy ffotograffiaeth a barddoniaeth pwerus. Crewyd yr arddangosfa hon gan ddisgyblion o Ysgol Gorllewin Mynwy mewn cydweithrediad ag artistiaid lleol, ac mae’n herio ystrydebaufd ac yn dathlu hunaniaeth.
  • Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan: Yr haf hwn, mae’r Senedd yn falch o gynnal Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan, arddangosfa newydd a grëwyd gan Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat a chylchgrawn Al Naaem. Mae’r prosiect yn deyrnged bwerus i gryfder, gwydnwch a harddwch treftadaeth Somalia.

 

Gweithgareddau

  • “Ry’n ni’n rhan o’r cyfoeth o bwy ydym ni” – Gweithgaredd Rhannu ‘Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan’: Mae’r ffilm Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan yn dathlu treftadaeth Somalïaidd yng Nghymru. Pe gallech chi wneud ffilm sy’n dathlu eich diwylliant neu’ch cymuned, beth fyddech chi eisiau ei rannu gyda phobl y dyfodol? Dewch i weld yr arddangosfa a rhannu eich meddyliau yn y Senedd.
  • Gweithdy creadigol gydag Al Naaem: Fel rhan o’r arddangosfa ‘Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan’, bydd Al Naaem yn cynnal gweithdy barddoni ac ysgrifennu creadigol gyda’r nod o rymuso pobl ifanc a datblygu eu creadigrwydd. Bydd cyfranogwyr yn archwilio eu treftadaeth a’u hunaniaethau trwy ymarferion ysgrifennu dan arweiniad ac adrodd straeon, gan helpu iddynt ddatblygu eu lleisiau unigryw eu hunain a meithrin hyder.
  • Cardiau Post o’r Dyfodol: Sut ydych chi’n meddwl y bydd Cymru ymhen 10, 20 neu hyd yn oed 50 mlynedd? Sut gyrhaeddon ni yno? Rhowch wybod i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, drwy greu eich cerdyn post eich hun o’r dyfodol.
  • Crefft: Beth am fod yn greadigol – fe gewch fwrw ati i wneud crefftau diddorol yn ystod eich ymweliad â’r Senedd, a darperir amrywiaeth o ddeunyddiau ar eich cyfer.
  • Ardal Chwarae: Mae gan ein hardal sy’n ystyriol o deuluoedd lawer o deganau i chwarae gyda hwy a map mawr o Gymru i’w archwilio. Tra bod y plant yn chwarae gallwch chi fwynhau paned yng nghaffi’r Senedd, sydd ond ychydig droedfeddi i ffwrdd.
  • Llyfrynnau Gweithgareddau – Fforwyr y Senedd ac Antur Fflam yn y Pierhead: Archwilio’r senedd a’r Pierhead gyda’n llyfrynnau gweithgareddau i blant 5-12 oed.

 

Teithiau a Sgyrsiau

  • Ymunwch â thaith dywys neu sgyrsiau a dysgwch fwy am waith Senedd Cymru, pensaernïaeth nodedig yr adeilad a hanes Bae Caerdydd.
Share: