Affairs of the Art: Celf Joanna Quinn / Affairs of the Art: The Art of Joanna Quinn

Mae Affairs of the Art yn dathlu gwaith celf Joanna Quinn o Beryl Productions, cwmni animeiddio sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd.

Sefydlwyd Beryl Productions gan Joanna a’r awdur a’r cynhyrchydd Les Mills yn 1987. Mae’r cwmni yn arbenigo mewn animeiddio cymeriadau wedi’u tynnu â llaw.

Cafodd ffilm ddiweddaraf y cwmni, Affairs of the Art, ei henwebu am Oscar yn 2022 yn y categori Ffilm Fer Animeiddiedig Orau. Denodd y ffilm sylw’r cyfryngau ledled Cymru ac yn rhyngwladol.

Yn dilyn ôl-sylliadau o waith Joanna ym mhob cwr o’r byd, hon fydd yr arddangosfa fawr gyntaf o waith celf Joanna yng Nghymru.


Affairs of the Art celebrates the artwork of Joanna Quinn from Beryl Productions, a Welsh animation company based in Cardiff.

Joanna established Beryl Productions with Writer and Producer Les Mills in the 1987 and specialises in hand-drawn character animation.

Their most recent film, Affairs of the Art, was nominated for Best Animated Short Film at the 2022 Oscars which gained media attention across Wales and internationally.

Following retrospectives of Joanna’s work all over the word, this exhibition is the first major showcase of her artwork in Wales.