Cyfarwyddwyd gan Liana Stewart
Cynhyrchwyd gan Catryn Ramasut, ie ie Productions
Pan oedd y gwneuthurwr ffilmiau Liana Stewart yn tyfu i fyny yn Butetown, Caerdydd, ychydig iawn o fodelau rôl duon a Chymraeg oedd ar y teledu. Mae hi wedi bod eisiau gwneud ffilm ers tro byd sy’n dod â phobl o bob cwr o Gymru at ei gilydd i rannu eu profiadau nhw o beth mae’n ei olygu i fod yn ddu ac yn Gymraeg. Mae hi bellach wedi llwyddo i wneud yr union beth hwnnw.
Yn gweu casgliad o straeon gafaelgar at ei gilydd, mae Liana’n cwrdd â phobl o Gasnewydd yn y de i Eryri yn y gogledd. Yn cynnwys digrifwyr, ffigurau busnes blaenllaw ac arwyr cymunedol, mae Black and Welsh (2020) yn rhoi cipolwg pwysig ar fywyd yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd Black and Welsh yn cael ei ddangos yn y Senedd drwy gydol mis Hydref i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon 2022.
Llun: ie ie Productions
……
Directed by Liana Stewart
Produced by Catryn Ramasut, ie ie Productions
When film-maker Liana Stewart was growing up in Butetown, Cardiff, there were very few black and Welsh role models on TV. She has long wanted to make a film that brings together people from across Wales to share their experiences of what it means to be black and Welsh. Now she has done just that.
Weaving together a collection of engaging stories, she meets people from Newport in the south to Snowdonia in the north. Featuring actors, comedians, leading business figures and community heroes, Black and Welsh (2020) captures an important snapshot of life in Wales for future generations.
Black and Welsh will be shown in the Senedd throughout October to celebrate Black History Month 2022.
Photo: ie ie Productions