NOSON YNG NGHWMNI HEATHER JONES
Heb os – un o gantorion mwya poblogaidd Cymru ers y chwedegau yw’r gantores fytholwyrdd o Gaerdydd Heather Jones.
Ers y chwedegau mae Heather wedi canu ar hyd a lled y byd yn ogystal a recordio nifer fawr o recordiau ac ymddangos ar rhaglenni teledu lu.
Mae Ad/lib Cymru’n hynod o falch i gyflwyno noson yng nghwmni Heather – lle geith hi adrodd ambell i stori am ei bywyd lliwgar a chyfle i wrando ar ei llais hudolus yn canu nifer fawr o’i chaneuon mwya poblogaidd.
Yn cadw cwmni i Heather fydd y canwr/cyfansoddwr o Gaerdydd – Sion Russell Jones.
Ad/Lib Cymru presents a Welsh language evening with the legendary Cardiff singer Heather Jones with her special guest Sion Russell Jones.