Hwyl yr Haf yn y Senedd / Summer Fun at the Senedd

P’un a ydych wedi bod o’r blaen neu dyma’ch tro cyntaf, ewch i’r Senedd yr haf hwn i gael diwrnod llawn hwyl. Mae gennym lawer o weithgareddau ar gyfer pob oedran, yn amrywio o gelf a chrefft i weithgareddau animeiddio.

Arddangosfa’r Haf yn y Senedd

Materion Celf,  yn dathlu gwaith Joanna Quinn, ffigwr enwog mewn animeiddio.

Gweithgareddau

Os ydych chi wrth eich bodd yn tynnu llun a doodle, yna dewch i ychwanegu eich braslun eich hun at ein rholyn hir o bapur.  Gwelwch eich llun yn dod yn fyw ar ddiwedd yr Haf pan ddaw’n rhan o Reel Animeiddio’r Senedd.

Teithiau

Ymunwch â thaith dywys a dysgu mwy am waith Senedd Cymru, pensaernïaeth nodedig yr adeilad a hanes Bae Caerdydd.

Teimlo’n llwglyd?

Mae caffi’r Senedd yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, tameidiau ysgafn, a chacennau blasus.   Tra byddwch chi yno, cymerwch ennyd i bori drwy ein siop, sydd ag anrhegion hyfryd, danteithion melys, a’r llyfrau diweddaraf.

Mae’r Senedd ar agor rhwng 10.30 a 16.30 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac mae’n rhad ac am ddim i ymweld â hi.

…………………………………………………………………………………

Whether you’ve been before or it’s your first time, visit the Senedd this summer for a fun packed day. We have lots of activities for all ages, ranging from arts and crafts to animation activities.

The Senedd Summer Exhibition

Affairs of the Art celebrates the work of Joanna Quinn, a renowned figure in animation.

Activities

If you love to draw and doodle, then come and add your own sketch to our long roll of paper. See your drawing come to life at the end of the Summer when it becomes part of the Senedd Animation Reel.

Tours

Join a guided tour and learn more about the work of the Welsh Parliament, the building’s landmark architecture and the history of Cardiff Bay.

Feeling hungry?

The Senedd café offers a range of hot and cold beverages, light bites, and tasty cakes. While you are there, take a moment to browse our shop, which has lovely gifts, sweet treats, and the latest books.

The Senedd is open between 10.30 and 16.30 Monday – Saturday and is free to visit.