Mae’r Senedd, mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn falch o gynnal yr arddangosfa hon o ddelweddau gan y ffotograffydd Nick Treharne fel rhan o brosiect i ddogfennu’r Gymru gyfoes.
Ers 2018, gweledigaeth Nick fu adeiladu portffolio cynhwysfawr o fywyd yng Nghymru.
O ddigwyddiadau a thraddodiadau sy’n rhan annatod o fywyd Cymru, i bortreadau o’r cymeriadau ysbrydoledig a diddorol y mae’n cwrdd â nhw ar ei deithiau, mae’r gŵr hwn sydd wrth ei fodd â’r “hanner eiliad” yn trawsnewid pynciau cyffredin bob dydd yn rhywbeth eithriadol.
Yn ddiweddar, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyfrannu delweddau Nick i Gasgliad y Werin, gwefan am ddim sy’n dod â threftadaeth Cymru ynghyd. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i bron i filiwn o ffotograffau sy’n gysylltiedig â Chymru.
……
The Senedd in partnership with the National Library of Wales is proud to host this exhibition of images by photographer Nick Treharne as part of a project to document contemporary Wales.
Since 2018, Nick’s vision has been to build a comprehensive portfolio of life in Wales.
From events and traditions that are an integral part of Welsh life, to portraits of the inspirational and interesting characters he meets on his journey, this “lover of the split second” transforms ordinary everyday subjects into something extraordinary.
The National Library of Wales has recently contributed Nick’s images to the People’s Collection Wales, a free website dedicated to bringing together Wales’s heritage.