Portread o Rosaleen (Rosie) Moriarty-Simmonds OBE a’r Haul y Tu Hwnt i’r Tonnau | Portrait of Rosaleen (Rosie) Moriarty-Simmonds OBE & The Sun Beyond the Waves

Ted Harrison & Rosie Moriarty-Simmonds OBE

Wedi’i noddi gan y Llywydd, y Wir Anrhydeddus Elin Jones AS

Eleni, mae’r Senedd yn falch o arddangos gwaith celf gan ddau artist o Gymru i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Nod Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, a gynhelir ar 3 Rhagfyr bob blwyddyn, yw cynyddu ymwybyddiaeth a llesiant pobl anabl ym mhob agwedd ar eu bywyd.

Mae Rosie Moriarty-Simmonds yn artist paentio ceg o Gaerdydd sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ac sydd wedi ennill gwobrau. Ar ôl oes o ymgyrchu dros hawliau a chydraddoldeb i bobl anabl, dyfarnwyd OBE i Rosie yn 2015. Roedd Rosie hefyd yn brif ymgyrchydd ar gyfer creu cofeb Thalidomid ym Mharc Cathays, Caerdydd, sy’n nodi bywydau a chyflawniadau pobl ledled y byd sydd â nam o ganlyniad i Thalidomid.

Mae Ted Harrison yn artist sy’n byw yn Aberystwyth. Mae ei waith yn eang o ran ei arddull a’r cyfryngau a ddefnyddir, ac mae nifer o’i weithiau yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae Ted yn gweithio ar gyfres o bortreadau o bobl amlwg yng Nghymru. Ar ôl cael ei arddangos yn y Senedd, bydd portread Ted o Rosie yn ymuno â’r casgliad portreadau cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


Ted Harrison & Rosie Moriarty-Simmonds OBE

Sponsored by the Llywydd, Rt. Hon. Elin Jones MS

This year, the Senedd is proud to display artwork by two Wales based artists as part of marking International Day of Disabled People. Falling on the 3rd December each year, International Day of Disabled People aims to increase the awareness and wellbeing of disabled people in all aspects of their life.

Rosie Moriarty-Simmonds is an internationally recognised, award winning Mouth Painting Artist from Cardiff. After a lifetime of campaigning for the Rights and Equality for Disabled People, Rosie was awarded an OBE in 2015. Rosie was also lead campaigner for the creation of the Thalidomide Memorial in Cathays Park, Cardiff, which marks the lives and achievements of Thalidomide Impaired people globally.

Ted Harrison is an artist based in Aberystwyth. His work is wide-ranging in style and media and several of his works are in the collection at the National Library of Wales. Ted is currently working on a series of portraits of prominent people in Wales. After being displayed in the Senedd, Ted’s portrait of Rosie will join the national portrait collection at the National Library of Wales.