Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
Noddir gan Jane Hutt AS
Mae Trwy Ein Llygaid yn rhannu straeon pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru, mewn ffotograffau a fideos. Mae ein harddangosfa yn herio canfyddiadau a stereoteipiau, drwy amlygu rolau a gweithgareddau pobl ag anableddau dysgu yn ein cymunedau – rolau a gweithgareddau o bwys mawr. Ry’n ni’n dathlu ein llwyddiannau ym meysydd cyflogaeth, gwirfoddoli, chwaraeon ac addysg, yn ogystal â meysydd eraill o fywyd
All Wales People First
Sponsored by Jane Hutt MS
Through Our Eyes shares the stories of people with learning disabilities in Wales through photographs and videos. Our exhibition challenges perceptions and stereotypes by highlighting the valued roles and activities of people with learning disabilities in our communities. We celebrate our achievements in employment, volunteering, sport, education and other areas of life.