Cliw: Mae’r carw yma, sy’n enwog am oleuo’r ffordd i Siôn Corn, yn cael blocbyster o ŵyl yn y gyrchfan hamddena boblogaidd yma.
Oriau agor: Mae’r Ganolfan ar agor tan yn hwyr bob dydd heblaw dydd Nadolig 25 Rhagfyr, pan fydd ar gau (bydd llythyrau’n cael eu hargraffu a’u rhoi ar y drysau blaen ar y diwrnod hwn).
Cliw: Mae’r carw yma yn dwlu ar ganu a chreu, ac fe fydd ym mynedfa’r Oriel, glaw neu hindda
Cliw: Bydd angen ichi fod yn ŵyl-iadwrus am nid un, ond dau o griw Siôn Corn ar ochr cei pefriol Bae Caerdydd. Pâr o geirw sydd yma, gydag un llythyren yn unig i’w chasglu.
Cliw: Mae’r carw yma yn cyrraedd yr uchelfannau! Gallwch weld y carw y tu mewn i adeilad y Senedd, neu o’r ffenestr ar ben y grisiau pan fydd yr adeilad ar gau. Ar agor dydd Llun i ddydd Gwener 09.00-16.30 a dydd Sadwrn / Gwyliau Banc 10.30-16.30. Mynediad olaf am 16:00. Ar gau 25 Rhagfyr 2024 – 1 Ionawr 2025.
Cliw: Un smala a ffrind ffyddlon yw’r carw yma sy’n cadw’n gynnes glyd yng nghyntedd y gwesty hwn. Pan fydd y lle ar gau (23 – 27 Rhagfyr) bydd angen llygad barcud i weld y cyfaill corniog yma yn un o’r ffenestri.
Cliw: Y cyflymaf o griw Siôn Corn yw seren y sioe yng nghartref theatr Bae Caerdydd eleni. Ewch am dro hamddenol o flaen yr adeilad eiconig hwn i weld yr aelod hwn o’r criw.
Cliw: Mae’r carw yma yn fach ond mae’n llawn plwc! Edrychwch yn y ffenestri i weld y carw hyfryd yma yn ymgolli yng ngolygfeydd y Bae.
Cliw: Mae’r carw yma yn hoff iawn o ddawnsio ac yn eich gwahodd i ymuno yn yr hwyl! Bydd angen ffôn clyfar i ddod â’r carw yn fyw. Edrychwch am y finyl ar y llawr gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru a sganio’r cod QR ar y bwrdd i ddechrau chwarae.
© Visit Cardiff Bay 2024 | Privacy Policy | Website by Accent Creative, Swansea.