28/08/2025
Canolfan Mileniwm Cymru
100 people in one time, in one place.
Heard as unique individuals.
Speaking as one community in one space.
Created after five months of research, partnership and conversations with staff, patients and visitors in 12 hospitals across 4 NHS Foundation Trusts in Bristol, London, Cambridge and Preston. 100 people reflect on their daily lives and work, their challenges, joys, inspirations and losses.
The result is a unique and multi-layered snapshot of the NHS, expressed directly by people rarely heard; those working in service, patients, visiting local communities and the invisible, extended workforce of the NHS.
4 PORTRAITS, four newly commissioned songs, are interwoven within the spoken word recordings which are then further embedded within an original musical score. Each song is voiced by a professional singer, playing a fictional character: the midwife, porter, manager and patient.
100 VOICES is experienced within a specially designed as a unique installation at Bocs, immersing audiences in 360 degree sound. 100 anonymous people are heard as individuals and also in digital transformations as a crowd, as a flock of voices, as a sonic tidal wave.
This work contains honest references to life in hospital including critical care and end of life.
100 VOICES NHS is a project created by SOUND VOICE in partnership with University College London Hospital (UCLH), University Hospitals Bristol & Weston (UHBW), Cambridge University Hospitals (CUH) and Lancashire Teaching Hospital NHS Foundation Trusts.
The project has been funded by Arts Council England, CUH NHS Foundation Trust, UCLH Charity, Lancashire Teaching Hospitals NHS Foundation Trust and UHBW NHS Foundation Trust, FEDORA, Britten Pears Arts, Mr John De Carpentier and supported PENTAX Medical.
100 o bobl mewn un amser, mewn un lle.
Yn cael eu clywed fel unigolion unigryw.
Yn siarad fel un gymuned mewn un gofod.
Wedi’i greu ar ôl pum mis o ymchwil, partneriaeth a sgyrsiau gyda staff, cleifion ac ymwelwyr mewn 12 o ysbytai mewn pedwar Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG ym Mryste, Llundain, Caergrawnt a Preston. Mae 100 o bobl yn myfyrio ar eu gwaith a bywydau pob dydd, eu heriau, llawenydd, ysbrydoliaethau a cholledion.
Y canlyniad yw cipolwg unigryw aml-haenog o’r Gwasanaeth Iechyd, yn cael ei fynegi’n uniongyrchol gan bobl sydd prin yn cael eu clywed; rhai sy’n gweithio mewn gwasanaeth, cleifion, yn ymweld â chymunedau lleol a gweithlu anweledig estynedig y GIG.
Mae 4 PORTRAITS, pedair cân sydd newydd gael eu comisiynu, yn cael eu cydblethu â’r recordiadau geiriau llafar sydd yna’n cael eu gosod o fewn sgôr cerddorol gwreiddiol. Caiff pob cân ei chanu gan ganwr proffesiynol, yn chwarae cymeriad ffuglen: y fydwraig, porthor, rheolwr a chlaf.
Caiff 100 VOICES ei brofi o fewn gosodwaith unigryw wedi’i ddylunio’n arbennig yn Bocs, gan ymdrochi cynulleidfaoedd mewn sain 360 gradd. Caiff 100 o bobl ddienw eu clywed fel unigolion a hefyd mewn trawsnewidiadau digidol fel torf, fel praidd o leisiau, fel ton lawn sonig.
Mae’r gwaith yma yn cynnwys cyfeiriadau onest at fywyd mewn ysbyty gan gynnwys gofal critigol a diwedd bywyd.
Mae 100 VOICES NHS yn brosiect a grëwyd gan SOUND VOICE mewn partneriaeth ag Ysbyty Prifysgol Coleg Llundain (UCLH), Ysbytai Athrofaol Bryste a Weston (UHBW), Ysbytai Prifysgol Caergrawnt (CUH) ac Ymddiriedolaethau Sefydledig GIG Ysbyty Athrofaol Swydd Gaerhirfryn.
Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG CUH, Elusen UCLH, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Athrofaol Swydd Gaerhirfryn ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG UHBW, FEDORA, Britten Pears Arts, Mr John De Carpentier a’i gefnogi gan PENTAX Medical.